Baner Sefydliad Iechyd y Byd
Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi datgan nad yw’r firws Zika yn argyfwng rhyngwladol erbyn hyn, er ei fod yn dal i fod yn “her sylweddol a chyson i iechyd cyhoeddus.”

Mae’r haint, sy’n cael ei gludo gan fosgitos, wedi cael ei gysylltu â namau genedigaeth mewn 30 o wledydd, lle mae babanod wedi cael eu geni â phennau anarferol o fach a chyfyngiadau yn natblygiad yr ymennydd.

Cafodd “argyfwng iechyd cyhoeddus o bryder rhyngwladol” ei ddatgan ym mis Chwefror eleni ar ôl achosion o’r firws yn Brasil.

Wrth ddatgan bod y cyfnod argyfwng wedi dod i ben, dywedodd Dr David Heymann, cadeirydd pwyllgor argyfwng Zika, fod y byd wedi ymateb ar frys mewn ffordd synhwyrol iddo.

“Mae’r ymateb wedi arwain at ddealltwriaeth glir fod haint firws Zika yn cynrychioli problem sylweddol iawn a hirdymor,” meddai.

“Cytunodd y pwyllgor fod yn rhaid i Zika gael ei reoli o fewn y WHO fel afiechydon heintus pwysig eraill a bygythiadau eraill.

“Bydd y WHO yn rhoi blaenoriaeth uchel iddo o fewn ei weithgareddau a bydd hefyd yn sefydlu grŵp ymgynghorol technegol a fydd yn cymryd drosodd y gwaith a wnaed gan y pwyllgor argyfwng.”