Julian Assange Llun: PA
Mae cyfweliad gyda sylfaenydd WikiLeaks Julian Assange, sy’n cael ei holi ar amheuaeth o gyflawni trosedd rhyw, wedi dod i ben ar ôl dau ddiwrnod o holi yn llysgenhadaeth Ecwador yn Llundain.

Fe fydd awdurdodau Sweden rŵan yn penderfynu a fydd achos yn cael ei ddwyn yn erbyn Assange ai peidio.

Mae Julian Assange wedi bod yn cael lloches gan y llysgenhadaeth ers pedair blynedd ac mae’n ofni y gallai gael ei estraddodi i’r Unol Daleithiau i gael ei holi am weithgarwch WikiLeaks pe bai’n gadael.

Mae’n gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn, ac mae disgwyl iddo orfod rhoi sampl o’i DNA fel rhan o’r broses o’i holi.