Julian Assange Llun: PA
Mae llywodraeth Ecwador yn cefnogi ymgais gan awdurdodau Sweden i holi Julian Assange ar amheuaeth o gyflawni troseddau rhyw.
Bu Assange yn byw yn llysgenhadaeth Ecwador yn Llundain ers dros bedair blynedd.
Mae disgwyl i sylfaenydd WikiLeaks gael ei holi gan heddlu a swyddfa erlynydd Sweden heddiw.
Y gred yw y gallai gael ei estraddodi i’r Unol Daleithiau i gael ei holi am weithgarwch WikiLeaks pe bai’n gadael y llysgenhadaeth.
Mae’n gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn, ac mae disgwyl iddo orfod rhoi sampl o’i DNA fel rhan o’r broses o’i holi.
Bydd casgliadau’r awdurdodau’n cael eu trosglwyddo o Ecwador i Sweden ar ffurf datganiad ysgrifenedig cyn bod penderfyniad ar yr achos.
Bydd cynnwys y cyfweliad yn aros yn gyfrinachol wrth i’r achos fynd rhagddo.