Mae daeargryn 7.8 a tswnami wedi taro ynys ddeheuol Seland Newydd.

Mae pobol ar hyd arfordir ddwyreiniol y wlad wedi cael rhybudd i symud i dir uwch.

Tarodd y daeargryn yn gynnar y bore ma ger Christchurch, ac roedd peth difrod yn Wellington, ryw 120 milltir i ffwrdd.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a gafodd unrhyw un ei anafu yn y naill ddigwyddiad neu’r llall.

Cafodd Christchurch ei tharo gan ddaeargryn yn 2011, ac mae’r ardal yn dal i deimlo effaith y digwyddiad dros bedair blynedd yn ddiweddarach.