Mae Ffrainc yn cynnal diwrnod o gofio flwyddyn union wedi’r gyflafan a laddodd 130 o bobol ym Mharis.
Ar ddechrau’r diwrnod, cafodd plac ei ddadorchuddio gan Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande yn Stade de France.
Fe fydd placiau’n cael eu dadorchuddio mewn saith lleoliad yn y brifddinas lle cafodd pobol eu lladd gan eithafwyr Islamaidd.
Cafodd Hollande ei eni ym Mhortiwgal ac er na siaradodd wrth agor y diwrnod yn swyddogol, dywedodd ei fab Michael fod ei dad yn “dystiolaeth o’r ffaith fod integreiddio’n bosib”.
Cafodd dau blac eu dadorchuddio ger neuadd y Bataclan, lle cafodd cyngerdd arbennig gan Sting ei gynnal neithiwr.
Cafodd enwau’r 90 o bobol a gafodd eu lladd yn y Bataclan eu darllen cyn cynnal munud o dawelwch.
Roedd oedrannau’r rhai fu farw’n amrywio o 17 i 68.