Diwedd gyrfa wleidyddol Hillary Clinton?
Mae Hillary Clinton wedi beio’r FBI a’u penderfyniad dros yr wythnosau diwethaf i ymchwilio i’w defnydd o gyfri e-bost personol am y ffaith iddi golli’r etholiad arlywyddol yn yr Unol Daleithiau.

Cafodd Donald Trump, ymgeisydd y Gweriniaethwyr, ei ethol yn Arlywydd nesa’r Unol Daleithiau yr wythnos diwethaf.

Yn ystod sgyrsiau ffôn â nifer o’i hymgyrchwyr, dywedodd Clinton ei bod hi ar y blaen tan bod cyfarwyddwr yr FBI, James Comey wedi anfon llythyr at y Gyngres yn cyhoeddi bod e-byst amheus wedi cael eu darganfod.

Cafodd yr e-byst eu darganfod yn ystod ymchwiliad i ymddygiad y cyn-wleidydd o Efrog Newydd, Anthony Weiner, oedd yn briod ag un o weithwyr Clinton.

Daeth cyhoeddiad am yr e-byst gan yr FBI ddiwrnodau’n unig ar ôl cyfres o ddadleuon arlywyddol rhwng yr ymgeiswyr, ac roedd Trump yn cael ei feirniadu’n hallt ar sail ei berfformiadau.

Manteisiodd Trump ar yr ymchwiliad wedyn, ond fe ddaeth cyhoeddiad ddydd Sul diwethaf nad oedd yr ymchwiliad wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth o ddrwgweithredu, ond erbyn hynny mae’n ymddangos ei bod hi’n rhy hwyr i Clinton adennill tir.

Yn y naw diwrnod rhwng dechrau a diwedd yr ymchwiliad, roedd 24 miliwn o Americanwyr wedi bwrw eu pleidlais, ac roedd hynny’n cyfateb i 18% o’r holl bleidleisiau.

Buddugoliaeth Trump

Mae’r protestiadau yn erbyn canlyniad yr etholiad yn parhau.

Ddoe, gorymdeithiodd degau o filoedd o bobol mewn strydoedd ar draws yr Unol Daleithiau’n datgan eu hanfodlonrwydd â’r canlyniad.

Cafwyd y protestiadau mwyaf yn Efrog Newydd a Chicago, ond hefyd mewn dinasoedd ym Massachusetts ac Iowa.

Mae’r gwneuthurwr ffilm, Michael Moore ymhlith y rhai sy’n galw ar i Trump ymddiswyddo ar ôl iddo wneud sawl sylw amheus am fenywod yn ystod ei ymgyrch.