Baner IS - y Wladwriaeth Islamaidd
Mae adroddiadau am frwydro ffyrnig yn parhau rhwng lluoedd Irac ac ymladdwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn ninas Mosul yng ngogledd y wlad.

Mae dwsinau o filwyr wedi cael eu lladd ers i’r cyrch i ryddhau ail ddinas fwyaf Irac o ddwylo IS gychwyn ar 17 Hydref.

Dywed swyddogion lluoedd Irac fod ardal Qadisiya o’r ddinas – a gafodd ei meddiannu ganddyn nhw ddoe – wedi dioddef ymosodiad gan hunan-fomwyr yn gynharach heddiw, a’u bod yng nghanol brwydr yno ar hyn o bryd ac mewn cymdogaeth arall gyfagos.