Donald Trump (Michael Vadon CCA 4.0)
Parhau mae’r protestiadau yn America ar ôl buddugoliaeth Donald Trump yn yr etholiad ddydd Mawrth.

Mae cannoedd wedi bod allan ar y strydoedd yn protestio yn ninasoedd California, gan gynnwys Los Angeles lle cafodd dros 200 eu harestio’r noson cynt.

Fe fu cannoedd hefyd yn gorymdeithio drwy Portland, Oregon, Miami ac Atlanta yn rhwystro traffig ac yn paentio sloganau.

Yn gynharach, fe fu rali arall yn Washington Square Park yn Manhattan, Efrog Newydd.

Ymhlith y protestwyr yno, roedd Leslie Holmes, 65 oed, a gymerodd ran yn ei phrotest gyntaf ers yr 1970au pryd y bu’n gorymdeithio ar strydoedd San Francisco i wrthwynebu rhyfel Vietnam.

“Does gen i ddim eisiau byw mewn gwlad lle nad yw fy ffrindiau’n cael eu cynnwys, a lle mae fy ffrindiau’n ofnus, a lle gall fy wyresau edrych ymlaen at gael eu cau allan o swyddi a gwleidyddiaaeth a gwireddu eu potensial – felly dw i yma er eu mwyn nhw,” meddai.

Fe fu dros 200 o bobl hefyd ar risiau’r Capitol yn Washington yn gweiddi “not my president” a “no Trump, no KKK, no fascist USA”.

Yn Tenessee, fe fu myfyrwyr yn gorymdeithio trwy Nashville yn rhwystro’r traffig ac yn canu caneuon ymgyrchoedd hawliau sifil, ac mae disgwyl y bydd rhagor o brotestiadau mewn amryw o ddinasoedd gan gynnwys Las Vegas, Los Angeles a Chicago heddiw.