Ei wefan swyddogol heddiw
Mae Prif Weinidog Canada a llwyth o enwogion y byd adloniant wedi talu teyrngedau i’r cyfansoddwr a chanwr, Leonard Cohen.

Fe fu farw’r Iddew o Montreal yn 82 oed, ychydig wythnosau ar ôl cyhoeddi ei CD ddiweddara’.

Mae’n cael ei ystyried yn un o gerddorion mwya’ dylanwadol yr hanner canrif ddiwetha’, yn cael ei osod ochr yn ochr â Bob Dylan, oherwydd angerdd ei eiriau.

Yn ôl Prif Weinidog Canada, Justin Trudeau, roedd y canwr yn “chwedl” ac yn “Fontrealwr eithriadol”.

“Bydd yn cael ei gofio am ei lais garw, ei hiwmor gwylaidd a’r geiriau cyfareddol a wnaeth ei ganeuon yn ffefrynnau parhaol i genedlaethau lawer,” meddai.

‘Siopwr anobaith’

Roedd Leonard Cohen wedi dechrau ei yrfa’n fardd a nofelydd cyn troi at ganu gwlad ac wedyn canu gwerin cyfoes, gyda chaneuon a oedd yn dal angst ieuenctid y 60au a’r 70au cynnar.

Roedd un disgrifiad ohono yn ei eiriau ei hun – “siopwr anobaith – the grocer of despair” – ac roedd wedi brwydro yn erbyn iselder ar hyd ei oes.

Ar ôl ei enwogrwydd cynnar yn ganwr dolefus, fe gafodd ail a thrydydd bywyd yn ddiweddarach gyda chefndir mwy melodaidd i’w lais dwfn.

Dod i Gaerdydd

Fe fu’n rhaid iddo ailddechrau teithio yn y ganrif hon ar ôl i un o’i weithwyr ei dwyllo o filiynau o ddoleri ac fe gafodd lwyddiant anferth gyda theithiau oedd yn cynnwys ymweliad â’r Arena Rhyngwladol yng Nghaerdydd.

Roedd wedi cael dylanwad anferth ar gerddorion eraill, gan gynnwys cerddorion Cymreig.

Mae gan y band Brigyn fersiwn o’i  gân enwoca’, Haleliwia, ac ef yw’r ‘Bardd o Fontreal’ yng nghân Bryn Fôn a gafodd ei sgrifennu ar ôl ei weld yn canu yn Nulyn.