Mae plismon wedi’i anafu mewn ymosodiad ar lysgenhadaeth Ffrainc yn ninas Athen.

Fe gafodd y swyddog ei frifo wedi i rai dynion daflu grenadau o’r tu allan i’r adeilad sydd reit gyferbyn â Senedd gwlad Groeg.

Fe gafodd yr ardal ei chau i gerbydau ac i gerddwyr, ac mae arbenigwyr fforensig yn dal i chwilio am dystiolaeth yno.

Y gred ydi mai dau ddyn ar gefn motobeic oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad, a bod beic tebyg i’r un gaf0dd ei ddefnyddio wedi’i ganfod yn ddiweddarach wedi’i adael yng nghanol dinas Athen.