Mae roced neu fom mortar wedi taro ysgol feithrin mewn ardal o brifddinas Syria, gan ladd beth bynnag chwech o blant.

Mae degau o blant bach eraill hefyd wedi’u hanafu a’u cludo i’r ysbyt yn ardal Harista yn Damascus yn dilyn y bomio fore Sul.

Y gred yn lleol ydi mai lluoedd llywodraeth Syria oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.