Mae polisi’r Undeb Ewropeaidd a’r Eidal i fod yn “galed” â ffoaduriaid a mewnfudwyr wedi arwain at ddefnydd heddlu’r wlad o fesurau sydd yn ymdebygu i “artaith”.

Yn ôl adroddiad Amnest Rhyngwladol, mae pobol sy’n cyrraedd yr Eidal o wledydd Affrica a’r Dwyrain Canol yn destun i gael eu curo, cael sioc drydanol a chael eu sarhau’n rhywiol.

Mae’r elusen yn rhoi’r bai ar bolisi’r Undeb Ewropeaidd o gofrestru ffoaduriaid a mewnfudwyr wrth iddyn nhw gyrraedd.

Yn ôl Amnest Rhyngwladol, mae’r broses yn tanseilio hawl pobol i geisio am loches ac mae pobol sy’n destun iddo yn cael eu cam-drin.

Gorfodi cymryd ôl-bysedd

Mae’r broses yn cynnwys cymryd ôl-bysedd pobol sy’n cyrraedd y wlad, gydag adroddiadau bod un ddynes o Eritrea wedi cael ei tharo ar ei hwyneb sawl gwaith cyn iddi orfod cytuno i gael ei hôl-bawd wedi’i gymryd.

Mae adroddiad arall bod bachgen 16 oed o Darfur wedi cael sioc drydanol gan yr Heddlu hefyd tan iddo fynd yn rhy wan i brotestio yn erbyn cael cymryd ei ôl-bysedd.

Dyw llawer o ffoaduriaid a mewnfudwyr ddim am gael cymryd eu hôl-bysedd a hynny am y pryder y gallan nhw gael eu hel yn ôl i’r Eidal wrth geisio mynd i wlad arall yn Ewrop, a hynny dan Ddeddf Dulyn.

“Y tu hwnt” i’r gyfraith

“Yn eu penderfyniad i leihau symudiad ffoaduriaid a mewnfudwyr i wledydd eraill, mae arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd wedi gyrru awdurdodau’r Eidal i’r eitha’ – a thu hwnt – o’r hyn sy’n gyfreithiol,” meddai Matteo de Bellis, Ymchwilydd Amnest Rhyngwladol ar yr Eidal.

“Y canlyniad yw bod pobol sydd wedi bod drwy brofiadau trawmatig, sy’n cyrraedd yr Eidal ar ôl teithiau torcalonnus, yn destun i asesiadau diffygiol, ac weithiau, camdriniaeth ofnadwy dan law’r heddlu.”

Mae Amnesti Rhyngwladol yn dweud eu bod wedi ceisio trafod pryderon yr adroddiad â Gweinidog Mewnol yr Eidal, ond nad ydyn nhw wedi cael ateb eto.

Mae’r adroddiad, Hotspot Italy: How EU’s flagship approach leads to violations of refugee and migrant rights, yn cynnwys cyfweliadau â dros 170 o ffoaduriaid a mewnfudwyr.