Mae tystiolaeth newydd yn awgrymu nad oedd neb wrth lyw awyren Malaysia MH370 pan aeth ar goll ger arfordir Awstralia yn 2014.

Mae adroddiad arbenigwyr technegol wedi ei gyhoeddi gan Swyddfa Diogelwch Trafndiaeth Awstralia ddydd Mercher.

Mae lle i gredu bod yr awyren Boeing 777 wedi rhedeg allan o danwydd cyn plymio ar gyflymdra uchel i gefnfor India.

Aeth yr awyren ar goll yn ystod taith rhwng Kuala Lumpur a Beijing ar 8 Mawrth, 2014 ac roedd 239 o bobol yn teithio arni.

Dros y misoedd diwetha’, fe fu lle i gredu bod peilot wrth y llyw pan aeth ar goll, ond mae arbenigwyr yn dweud y gallai’r awyren fod wedi mynd ymhellach pe bai hynny’n wir. Mae archwiliad o ddarn o adain yr awyren a ddaeth i’r lan yn Tansanïa hefyd yn cefnogi’r ddamcaniaeth hon.

Daw’r adroddiad ar drothwy uwchgynhadledd yn Canberra i archwilio’r holl dystiolaeth unwaith eto.

Mae arbenigwyr wedi bod yn archwilio mwy nag 20 o eitemau sydd wedi cael eu golchi i’r lan ar hyd Gefnfor India, ond mae disgwyl i’r chwilio ddod i ben ddechrau’r flwyddyn nesa’.