Un o lwyfannau olew Shell (llun parth cyhoeddus)
Mae dau o gwmnïau olew mwya’r byd wedi cyhoeddi ffigurau gwahanol iawn wrth i’r cwymp ym mhris olew crai aros yn gymharol isel.

Roedd Shell wedi gwneud elw o £1.1 biliwn yn nhrydydd chwarter eleni ar ôl colledion anferth yn y chwarter cynt.

Ond mae elw BP wedi haneru bron i  £763 miliwniau wrth iddyn nhw roi’r bai ar brisiau am wasgu are u gwynt.

Roedd Prif Weithredwr Shell hefyd yn rhybuddio bod y dyfodol tymor byr yn “ansicr” oherwydd y cwymp mewn prisiau.