Mae Canada a’r Undeb Ewropeaidd wedi llofnodi cytundeb masnachu gan roi terfyn ar ansicrwydd yn dilyn gwrthwynebiad gan Wlad Belg.

Roedd oedi dros nos cyn llofnodi’r CETA ym Mrwsel ar ôl i awyren Prif Weinidog Canada, Justin Trudeau orfod dychwelyd i Ottawa oherwydd problemau mecanyddol.

Cafodd y cytundeb ei lofnodi gan Trudeau, Llywydd Comisiwn Ewrop Jean-Claude Juncker, Llywydd Cyngor Ewrop Donald Tusk a Phrif Weinidog Slofacia, Robert Fico.

Ond y tu allan i’r cyfarfod, roedd tua 250 o brotestwyr gwrth-CETA wedi ymgynnull i geisio rhwystro mynediad i’r adeilad.

Cafodd rhannau o’r adeilad eu paentio’n goch ganddyn nhw, ac fe lwyddodd rhai o’r protestwyr i gael mynediad.

Cafodd 16 o bobol eu symud gan yr heddlu, ond parhau wnaeth y brotest.

Rhanbarth Wallonia yng Ngwlad Belg oedd wedi bod yn gwrthwynebu’r cytundeb, gyda gwleidyddion yn dadlau ei fod yn tanseilio llafur, yr amgylchedd a safonau cwsmeriaid gan y byddai modd i gwmnïau rhyngwladol niweidio cwmnïau bychain.

Yn ôl yr Undeb Ewropeaidd, bydd y cytundeb yn diddymu tariff mewn 99% o achosion ac yn cynyddu masnach gyda Chanada o 12 biliwn Ewro bob blwyddyn, gan greu swyddi ychwanegol yng Nghanada ac yng ngwledydd yr Undeb Ewropeaidd.

Ond ni fydd yn atal llywodraethau rhag gwarchod yr amgylchedd os ydyn nhw’n credu bod angen gweithredu.

Fe fu’r cytundeb ar y gweill ers 2009, ac fe gafodd y ddogfen ei chwblhau ddwy flynedd yn ôl.