Ffoaduriaid yn gadael gwersyll Y Jyngl yn Calais (Llun: John Stillwell/PA Wire)
Mae disgwyl i weithwyr awdurdodau Ffrainc barhau i chwalu a dymchwel gwersyll ‘Y Jyngl’ yn Calais heddiw, wrth i gannoedd o ffoaduriaid ac ymfudwyr gael eu gorfodi i adael.

Dechreuodd y gwaith fore dydd Llun pan ddaeth gweithwyr i’r gwersyll ac mae disgwyl iddyn nhw barhau ar y safle am wythnos.

Mae o leiaf 772 o blant ifanc, sydd ar eu pen eu hunain, gael eu cofrestru yn y deuddydd diwethaf, yn ôl yr awdurdodau. Yn sgil hyn, mae elusen Achub y Plant ac Unicef wedi condemnio’r penderfyniad i chwalu’r gwersyll tra bod plant ar y safle gan ddweud nad yw’r safle yn ddiogel.

Ar ail ddiwrnod y clirio, fe gofrestrodd 1,636 o ffoaduriaid, gan gynnwys 372 o blant ifanc, i gael eu symud i ganolfannau eraill yn Ffrainc. Mae 4,000 o bobol wedi cofrestru ers dechrau’r wythnos.

Mae’r ffoaduriaid wedi cael rhybudd bod yn rhaid iddyn nhw adael y gwersyll neu wynebu cael eu harestio neu eu hestraddodi.