Mae pedwar bobol wedi marw yn dilyn damwain mewn parc thema ar arfordir dwyreiniol Awstralia.

Mae dau ddyn a dwy ddynes wedi marw ar reid ‘Thunder River Rapids’ ym mharc Dreamworld yn Gold Coast, Queensland.

Fe achosodd nam ar y reid – sydd fel arfer yn cario pobol mewn rafftiau ar hyd afon wyllt – i ddau o bobol gael eu taflu o’r bad; tra chafodd rhaid eraill eu dal yn gaeth y tu mewn i’r reid.

Er i staff y parc thema roi cymorth cynta’ i’r dioddefwyr, roedd eu hanafiadau yn rhai marwol. Roedd y rheiny fu farw yn eu 30au a’u 40au.