Mae dwsin o bobol wedi’u lladd mewn ymosodiad gan eithafwyr sy’n targedu pobol nad ydyn nhw’n Fwslimiaid ar y ffin rhwng Cenia a Somalia.

Y gred ydi mai dynion arfog o’r mudiad eithafol al-Shabab oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad ar westy yn rhanbarth Mandera. Mae’r mudiad wedi addo dial ar Cenia am i’r wlad anfon lluoedd i Somalia yn 2011.

Mae lluoedd diogelwch Cenia wedi llwyddo i rwystro’r don o ymosodiadau gan al-Shabab ar rai o brif ddinasoedd y wlad yn ystod y blynyddoedd diwetha’, er bod cannoedd o bobol wedi’u lladd gan y mudiad.

Ond mae rhanbarth Mandera yn parhau i fod yn ardal ymfflamychol iawn. Yno, ym mis Tachwedd 2014, fe lwyddodd milwyr al-Shabab i ladd 28 o deithwyr ar fwrdd bws. Ym mis Rhagfyr 2014, fe laddon nhw 36 o chwarelwyr.