Mae dynion arfog wedi ymosod ar ganolfan hyfforddi’r heddlu ym Mhacistan gan ladd o leiaf 58 o swyddogion.

Dywedodd uwch-swyddog iechyd yn ardal Baluchistan, Noor Haq Baloch, bod tua 116 o bobol wedi cael eu hanafu – y rhan fwya’ yn ddynion oedd dan hyfforddiant a swyddogion y fyddin.

Cafodd un o’r dynion arfog eu lladd gan yr heddlu a bu farw dau arall wedi iddyn nhw danio eu festiau ffrwydrol.

Roedd tua 700 o bobol y tu mewn i’r ganolfan ar adeg yr ymosodiad.

Credir bod gan yr ymosodwyr gyswllt ag Afghanistan, ac mae’n bosib eu bod yn perthyn i grŵp terfysgol Lashker-e-Jhangvi sydd â chysylltiadau ag al Qaida. Er hyn, nid yw’r grŵp wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.