Rurik Jutting Llun: PA
Roedd bancwr o Brydain wedi bod yn defnyddio cocên pan laddodd ddwy ddynes o Indonesia ac yna defnyddio’i ffôn i ffilmio ei hun yn siarad am y peth, clywodd llys yn Hong Kong heddiw.

Mae Rurik Jutting, sy’n dod o Cobham yn Surrey yn wreiddiol, wedi pledio’n ddieuog i ddau gyhuddiad o lofruddiaeth. Mae erlynwyr eisoes wedi gwrthod ei ymgais i bledio’n euog i’r cyhuddiad llai o ddynladdiad.

Daethpwyd o hyd i gyrff Sumarti Ningsih, 23 a Seneng Mujiasih, 26, yn fflat moethus Rurik Jutting yn 2014. Mae’r achos wedi tynnu sylw at anghydraddoldeb yn y ddinas rhwng ffordd o fyw’r breintiedig a’r bobl leol.

Honnir bod Rurik Jutting wedi arteithio’r ddwy cyn eu lladd a rhybuddiodd y barnwr wrth aelodau o’r rheithgor bod peth o’r dystiolaeth yn “annymunol iawn”.

Mae’n wynebu dedfryd o garchar am oes os yw’n ei gael yn euog.