Mae pump o bobol wedi’u lladd mewn damwain awyren a achosodd “ffrwydrad anferth” ym maes awyr rhyngwladol Malta.

Fe wnaeth yr awyren daro’r ddaear wrth geisio esgyn tua 7:20 y bore ym mhrif faes awyr yr ynys yn Luqa, ac roedd hi’n teithio i Misurata yn Libya.

Mae llefarydd ar ran y maes awyr wedi cadarnhau fod pob un o’r pump o griw oedd arni wedi marw.

Mae lle i gredu bod yr awyren wedi gwyro i’r dde gan ddisgyn i’r ddaear ar ôl esgyn, ac wedi ffrwydro wedyn.

Mae’r maes awyr ynghau ar hyn o bryd wrth i ymchwiliad gael ei gynnal ac mae teithwyr yn cael eu cynghori i wirio’r wefan am ddiweddariadau.

Roedd adroddiadau cynnar yn awgrymu fod yr awyren wedi’i llogi gan asiantaeth rheoli ffiniau’r Undeb Ewropeaidd, Frontex.

Ond, mae sefydliad Frontex wedi gwadu hynny gan ddweud nad oedd yr awyren yn gysylltiedig â gweithrediadau’r Undeb Ewropeaidd ac nad oedd unrhyw swyddogion o’r UE yn rhan o’r digwyddiad.