Senedd Sbaen
Mae disgwyl i anghydfod sydd wedi para 10 mis yn Sbaen ddod i ben wrth i’r Blaid Sosialaidd ddweud na fyddan nhw’n parhau i wrthwynebu ymgeisyddiaeth Mariano Rajoy i fod yn Brif Weinidog.

Mae’r penderfyniad yn golygu y gall Rajoy barhau i ffurfio llywodraeth leiafrifol yn dilyn ffrae hir.

Dywedodd pwyllgor y Sosialwyr na fydden nhw’n bwrw eu pleidlais yn ystod sesiwn yn y Senedd.

Mae’n golygu nad oes disgwyl bellach i Sbaen orfod cynnal trydydd etholiad cyffredinol i ddewis llywodraeth newydd.

Llwyddodd Rajoy i ddal ei afael ar ei rym yn y ddau etholiad blaenorol, ond doedd ganddyn nhw ddim mwyafrif.

Dydy Sbaen erioed wedi cael llywodraeth glymblaid.