Mae lluoedd Irac a Chwrdaidd wedi dod ynghyd unwaith eto i geisio adennill dinas Mosul oddi ar Daesh (y Wladwriaeth Islamaidd).

Mae’r lluoedd Cwrdaidd yn dweud iddyn nhw ymosod ar Mosul o ddau gyfeiriad ger tref Bashiqa.

Yn ôl lluoedd arbennig Irac, maen nhw eisoes wedi adennill rhannau o Bashiqa, gan gynnwys rhannau Shiaidd o’r dref.

Mae mwy na 25,000 o filwyr Irac yn rhan o’r ymgyrch ac mae disgwyl i’r ymladd bara rhai misoedd wrth iddyn nhw fynd i’r afael â Daesh.