Mae disgwyl i’r gwaith o ddymchwel gwersyll ffoaduriaid yn Calais ddechrau ddydd Llun, yn ôl papur newydd y Guardian.

Ond mae pryderon o hyd am ddiogelwch y ffoaduriaid sy’n byw yno.

Fe fydd 60 o fysus yn cludo 3,000 o bobol i ganolfannau eraill ar draws Ffrainc ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher.

Mae ffoaduriaid yn cael gwybod dros y penwythnos pryd fyddan nhw’n cael eu symud.

Ond mae elusennau ac aelodau seneddol Prydain wedi rhybuddio bod ganddyn nhw “bryderon difrifol iawn” am ddiogelwch a lles y ffoaduriaid, gan gynnwys 1,300 o blant sydd heb oruchwyliaeth.

Mae 60 o aelodau seneddol a llu o elusennau wedi llofnodi llythyr sy’n dweud bod yr ymateb i’r sefyllfa hyd yma wedi bod yn “annigonol”.

Maen nhw’n galw am sicrhau bod mannau diogel ar gael i’r ffoaduriaid wrth i’r gwaith dymchwel ddechrau, a bod pobol all symud i wledydd Prydain yn cael cymorth i wneud hynny.