Mae cwmni AT&T yn prynu cwmni Time Warner am 85.4 biliwn o ddoleri.

Mae Time Warner yn cynnwys Warner Bros, HBO a CNN.

Ceisiodd AOL brynu Time Warner am 94 biliwn o ddoleri yn y gorffennol a fyddai wedi ei wneud yn gytundeb mwya’r byd ar y pryd.

Bydd rhaid i reoleiddwyr roi sêl bendith cyn i’r cytundeb diweddaraf gael ei gwblhau.

Mae’r mater eisoes wedi cael sylw gan ymgeiswyr arlywyddol yr Unol Daleithiau, wrth i Donald Trump, y Gweriniaethwr, addo “lladd” y cytundeb gan y byddai’n rhoi gormod o rym i ychydig iawn o bobol.

Gwnaeth cyfrannau AT&T ostwng 3% ddydd Gwener yn dilyn newyddion am y cytundeb, ond codi 8% wnaeth cyfrannau Time Warner.

Mae Time Warner wedi dweud y bydd y cytundeb yn cynyddu eu posibiliadau wrth iddyn nhw greu rhaglenni a ffilmiau newydd, ac yn ei gwneud hi’n haws caffael hawliau.