Rhai o'r teithwyr a oroesodd y ddamwain trên yn Cameroon ddoe (Equinox TV via AP)
Cafodd o leiaf 73 o bobl eu lladd wrth i drên fynd oddi ar y cledrau yn Cameroon yng ngorllewin Affrica ddoe.

Gyda dros 600 wedi eu hanafu, yr ofnau yw y bydd nifer y marwolaethau yn codi.

Gyda chyrff wedi eu gwasgaru ar hyd y rheilffordd, parhau roedd y chwilio heddiw am ragor o ddioddefwyr.

Mae adroddiadau fod y trên yn cario tua 1,300 pan nad oedd ganddi ond lle i 600.