Mae dyfodol trafodaethau ynghylch cytundeb masnach rhwng yr Undeb Ewropeaidd a Canada yn y fantol.

Mae llywydd Senedd Ewrop, Martin Shultz, wrthi ar hyn o bryd yn chwilio am ffyrdd o ddatrys y methiant diweddaraf.

Ar ôl i un peth ar ôl y llall lesteirio’r trafod sydd wedi parhau am flynyddoedd rhwng y ddwy ochr, dywedodd gweinidog masnach rhyngwladol Canada fod y sefyllfa’n ‘amhosibl’.

Mae’r anhawster presennol yn ymwneud â senedd ranbarthol Wallonia yng Ngwlad Belg yn gwrthod cynigion diweddaraf yr Undeb Ewropeaidd.

Mae cefnogwyr a gwrthwynebwyr Brexit ym Mhrydain wedi defnyddio hyn fel dadl dros eu safbwyntiau.

Yn ôl cefnogwyr Brexit, mae’n dangos bod yr Undeb Ewropeaidd yn gyfundrefn rhy glogyrnaidd i allu ffurfio cytundebau masnach.

Ar y llaw arall, dywed gwrthwynebwyr Brexit fod yr anghydfod yn profi pa mor anodd fydd hi i Brydain gael cytundeb masnach gyda’r Undeb Ewropeaidd.

“Mae talaith yng Ngwlad Belg yn rhwystro cytundeb masnach rhwng yr Undeb Ewropeaidd a Canada – a gall unrhyw wlad fach arall o’r Undeb wneud yr un peth i Brydain, diolch i Brexit,” meddai’r AS Llafur, Steve Reed.