Mae’r awdurdodau ym mhrifddinas India wedi cau parc cyhoeddus yng nghanol Delhi Newydd, wedi i wyth o adar farw o ffliw adar.

Fe ddaw’r penderfyniad ddyddiau wedi i sw’r ddinas gau ei giatiau yn dilyn marwolaeth naw o adar o’r feirws H5N1 yn y fan honno.

Er nad ydi’r feirws yn bygwth iechyd pobol, fe all y straen H5N1 fod yn farwol i ddofednod domestig ac i adar gwyllt.

Mae Parc Ceirw Hauz Khas yn gartre’ i gannoedd o geirw, peunod ac adar eraill, ac mae’n un o’r ychydig fannau gwyrdd yn y ddinas, ac mae’n boblogaidd iawn gyda loncwys a cherddwyr.