Mae Donald Trump wedi gwrthod cadarnhau y bydd yn derbyn canlyniad yr etholiad arlywyddol os bydd yn colli.

Mae ymgeisydd y Blaid Weriniaethol wedi awgrymu bod rhyw gonspirasi ar waith i’w gadw rhag cael ei ethol yn Arlywydd America.

Mewn dadl deledu danbaid â Hillary Clinton yn Las Vegas neithiwr, dywedodd Donald Trump y bydd yn aros tan ar ôl i’r bleidlais fod cyn dweud a fydd o’n derbyn y canlyniad.

Bydd pobol yr Unol Daleithiau yn bwrw pleidlais ar 8 Tachwedd.

Yn ystod y ddadl deledu fe gafodd Donald Trump ei gwestiynu am honiadau y mae wedi eu gwneud bod canlyniad yr etholiad wedi’i drefnu ymlaen llaw er budd y Democratiaid.

Dywedodd Hillary Clinton bod sylwadau ei gwrthwynebydd yn “warthus”, ac mae Pwyllgor Cenedlaethol y Gweriniaethwyr wedi dweud y byddai’r blaid yn “parchu dewis y bobol”.

“Pyped” i Putin

Fe ddaeth y ddau yn benben eto neithiwr, gyda Hillary Clinton yn honni bod Donald Trump yn “byped” i arlywydd Rwsia, Vladimir Putin.

“Dw i ddim yn adnabod Putin,” meddai Donald Trump. “Mae e wedi dweud pethau neis amdana’ i. Os byddan ni’n dod ymlaen yn dda, byddai hynny’n dda.

“Does gan [Putin] ddim parch tuag ati hi. Does ganddo ddim parch tuag at ein harlywydd.”

Honiadau cam-drin “ffals”

Fe wnaeth y biliwnydd hefyd gyfeirio at honiadau ei fod wedi ymosod yn rhywiol ar nifer o ferched, gan gyhuddo tîm Hillary Clinton o greu’r honiadau “gwbl ffals”.