Mae cyrch o’r awyr dan arweiniad yr Unol Daleithiau, wedi lladd chwech o bobol gyffredin mewn pentre’ bach ar gyrion dinas Aleppo yn Syria.

Fe gafodd pedwar o bobol eraill eu hanafu yn yr ymosodiad ar Hassajek ddydd Mawrth yr wythnos hon, ac fe gafodd dau gartre’ eu dinistrio.

Fe ddaeth cenadwri gan luoedd Rwsia a oedd yn gwylio’r ardal, fod dwy awyren ryfel F-16 yn perthyn i wlad Belg eu gweld uwchben yr ardal ar adeg yr ymosodiad.

Maen nhw wedi nodi eisoes nad oedd awyrennau rhyfel Rwsia na Syria yn agos at yr ardal ddydd Mawrth.