Mae heddlu yn Nhwrci wedi lladd dyn oedd yn cael ei amau o fod yn aelod o’r Wladwriaeth Islamaidd ac a oedd yn cynllwynio i ffrwydro dyfais yn y brifddinas.

Fe gafodd y dyn ei saethu’n farw wedi cyrch ar fflat ar nawfed llawr adeilad ar gyrion dinas Ankara, ar ol iddo anwybyddu rhybuddion gan yr heddlu i ddod allan ac ildio. Yn hytrach, fe ddechreuodd saethu at blismyn.

Y gred ydi fod y dyn yn cynllwyio ymosodiad yn Ankara, a’i fod yn bwriadu ei chwythu ei hun i fyny. Fe gafodd ffrwydron eu canfod yn y fflat.

Mae swyddfa’r llywodraethwr wedi cyhoeddi enw’r dyn, Ahmet Balik, 24 oed a anwyd yn ninas Adana yn ne Twrci.