Lluoedd Irac
Mae lluoedd Llywodraeth Irac a lluoedd Cwrdaidd wedi dechrau cyrch i geisio disodli’r Weriniaeth Islamaidd (IS) o ddinas Mosul.

Mae’r lluoedd yn cael cymorth gan y glymblaid sy’n cael ei harwain gan yr Unol Daleithiau.

Roedd confoi o luoedd Irac, Cwrdaidd a’r Unol Daleithiau i’w gweld yn teithio tuag at Mosul yn gynnar bore ma. Cafodd cyrchoedd o’r awyr eu cynnal hefyd.

Mewn darllediad ar y teledu, fe gyhoeddodd Prif Weinidog Irac Haider al-Abadi y byddai’r cyrchoedd yn dechrau gan ddechrau’r frwydr fwyaf ffyrnig ers i filwyr America adael bron i bum mlynedd yn ôl.

Roedd IS wedi meddiannu Mosul bron i ddwy flynedd yn ôl ac mae’n parhau’n gartref i fwy na miliwn o bobl, yn ôl amcangyfrif y Cenhedloedd Unedig.