Menace Bwdlaidd ger rhes o alarmyr am y diweddar frenin Bhumibol Adulyadej yn Bankok heddiw (AP Photo/Wason Wanichakorn)
Mae miloedd o drigolion Gwlad Thai wedi bod allan ar strydoedd y brifddinas Bankok yn galaru ar ôl y brenin Bhumibol Adulyaduej.

Fe fu farw’r brenin ddydd Iau yn 88 oed ar ôl teyrnasu am dros 70 mlynedd.

Cyhoeddodd llywodraeth y wlad nad oes ar fab y brenin, y tywysog Maha Vajialongkorn eisiau cael ei enwi fel y brenin newydd ar hyn o bryd hyd nes bydd y wlad wedi cael digon o amser i alaru.

Yn lle hynny, pennaeth y cyfrin gyngor, Prem TInsulanonda, sy’n 96 oed, fydd yn gweithredu fel Rhaglyw (Regent), hyd nes bydd brenin newydd yn cael ei goroni, yn unol â chyfansoddiad y wlad.