Effaith cynhesu byd-eang (o wefan WWF)
Mae bron i 200 o wledydd wedi cytuno ar fesurau i gyfyngu’r defnydd o nwyon tŷ gwydr er mwyn ymladd yn erbyn cynhesu byd-eang.

Mae’r cytundeb a gafodd ei gyhoeddi’r bore yma yn dilyn cyfres o drafodaethau ar gychwyn gweithredu penderfyniadau Cytundeb Paris y llynedd i dorri ar allyriadau carbon.

Fe fydd proses raddol yn cychwyn yn 2019 i ddefnyddio llai ar hydrofluorocarbons, HFC, nwyon sy’n cael eu defnyddio mewn rhewgelloedd a systemau aer-dymheru, ac sy’n llawer mwy niweidiol i’r amgylchedd na carbon deuocsid.

Y gwledydd mwy datblygedig gan gynnwys yr Unol Daleithiau fydd yn gweithredu i gychwyn, gyda China, sef allyrrwr carbon mwyaf y byd, yn ymuno yn 2024, a grŵp bach o wledydd gan gynnwys India a Pacistan yn cychwyn yn 2028.

Mae’r cytundeb wedi cael ei groesawu gan sefydliad amgylcheddol.

“Dyma’r gostyngiad mwyaf mewn tymheredd i gael ei sicrhau mewn unrhyw un cytundeb,” meddai Durwood Zaelke, llywydd y Sefydliad Llywodraethu a Datblygu Cynaliadwy, sy’n dweud bod y cytundeb yn mynd 90% o’r ffordd at leihad o hanner gradd Celsius mewn cynhesu byd-eang erbyn diwedd y ganrif.

“Mae hwn yn llawer mwy na’r haenen osôn a HFC,” meddai Erik Solheim, cyfarwyddwr gweithredol Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig. “Mae’n ddatganiad clir gan holl arweinwyr y byd bod y trawsnewidiad a gychwynnodd gyda Chytundeb Paris y llynedd yn ddi-droi’n ôl.”