Fe gyhoeddwyd heddiw mai’r canwr gwerin, Bob Dylan, ydi enillydd Gwobr Nobel Llenyddiaeth.

Robert Allen Zimmerman, o roi iddo ei enw genedigol, ydi’r cyfansoddwr caneuon cynta’ i gael ei gydnabod fel hyn.

Ymhlith ei ganeuon mwyaf adnabyddus yw ‘Blowin’ in the Wind’, ‘The Times They are A-Changin’ a ‘Like a Rolling Stone’.

Fe wobrwywyd y canwr protest 75 mlwydd oed, sydd wedi dylanwadu ar sawl artist yn y Sïn Gerddoriaeth Gymraeg am “greu mynegiant barddonol o fewn traddodiad canu Americanaidd”.

Yn ôl llefarydd ar ran yr Academi yn Sweden: “Y mae’n fardd mawr yn y traddodiad iaith Saesneg. Am 54 mlynedd, y mae wedi bod yn brysur yn ail-ddyfeisio ei hun yn gyson, yn creu huaniaeth newydd.”