Corwynt Mattew Llun: PA
Mae timau achub wedi bod yn gweithio i achub tua 1,500 o drigolion yng Ngogledd Carolina yn yr Unol Daleithiau a gafodd eu caethiwo pan orlifodd Afon Lumber oherwydd Corwynt Matthew.

Fe wnaeth y timau achub weithio am tua 10 awr i chwilio a chludo trigolion mewn cychod i ardaloedd mwy diogel.

Roedd disgwyl i’r timau achub  ddychwelyd i’w gwaith heddiw wrth iddyn nhw aros i dair afon gyrraedd eu lefelau uchaf erioed yn dilyn y dilyw a ddaeth yn sgil y storm.

Mae Corwynt Matthew wedi lladd mwy na 500 o bobl yn Haiti ac o leiaf 23 yn yr Unol Daleithiau – gyda bron i hanner ohonynt yng Ngogledd Carolina. Mae o leiaf tri o bobl eraill ar goll.

Nid yw’n glir ar hyn o bryd beth yw maint  y trychineb yng Ngogledd Carolina ond mae hi’n ymddangos bod miloedd o gartrefi wedi’u difrodi a bod mwy mewn perygl o gael eu heffeithio gan lifogydd.