Llun: PA
Mae’r wrthblaid yn Awstralia wedi atal cynlluniau’r llywodraeth ar gyfer pleidlais gyhoeddus ar briodas gyfartal gan ddadlau y byddai’n well pe bai’r mater yn cael ei benderfynu yn y senedd.

Mae’r Prif Weinidog Malcolm Turnbull a’i lywodraeth glymblaid geidwadol angen cefnogaeth y Blaid Lafur i basio deddfwriaeth er mwyn cynnal y bleidlais ar 11 Chwefror.

Ond mae cyfarfod o wleidyddion Llafur wedi penderfynu yn unfrydol yn erbyn cefnogi’r bleidlais.

Tra bod Llafur yn cefnogi priodas gyfartal, mae’n dadlau y byddai’r bleidlais yn sbarduno dadl gyhoeddus gynhennus ac y dylai’r senedd benderfynu ar y mater heb ofyn i’r cyhoedd.

Mae’r rhan fwyaf o grwpiau hawliau pobl hoyw yn ofni y gallai’r ymgyrch droi’n un ymosodol a fyddai’n arwain at golli’r bleidlais gan olygu y byddai priodas gyfartal oddi ar yr agenda cenedlaethol am ddegawdau.

Mae rhai aelodau ceidwadol hefyd wedi dweud y byddant yn pleidleisio yn erbyn priodas hoyw yn y senedd hyd yn oed os yw’r rhan fwyaf o Awstraliaid yn ei gefnogi.