Fe fydd rhaid i Donald Trump geisio adennill tir yn y ras am arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau wrth iddo herio Hillary Clinton mewn dadl deledu ddydd Sul.

Dydy ymgeisydd y Gweriniaethwyr ddim yn bwriadu rhoi’r gorau i’r ras er iddo golli cefnogaeth rhai o’i blaid ar ôl i recordiad ohono’n gwneud sylwadau anweddus am fenywod ddod i’r amlwg.

Roedd rhai wedi bod yn galw arno i dynnu ei enw’n ôl o’r ras.

Hyd yn oed cynt yr helynt diweddaraf, roedd lle i gredu bod Clinton ar y blaen ar ôl perfformiad hyderus yn y ddadl gyntaf.

Mae Trump, mewn ymgais i adennill tir, wedi awgrymu y gallai droi’r ddadl yn fath o refferendwm ar briodas Clinton a’r ffordd y gwnaeth hi drin y menywod y cafodd Bill Clinton berthynas â nhw.

Dywedodd Trump mewn fideo fod Bill Clinton “wedi camdrin menywod” a bod ei wraig “wedi bwlio, wedi ymosod ar fenywod, wedi’u cywilyddio a’u bygwth”.

Mae ei bartner etholiadol, Mike Pence hefyd wedi dweud nad oes modd amddiffyn sylwadau Trump, a gafodd eu gwneud mewn recordiad yn 2005.

Mae’r Gweriniaethwyr wedi galw cyfarfod arbennig i drafod y mater.