Mae corwynt Matthew wedi bwrw Fflorida â glaw trwm wrth i’r storm â gwyntoedd o 130mya ruo’n agosach.

Dyma yw’r storm fwya’ pwerus i fygwth arfordir Atlantig America ers dros ddegawd, ac mae eisoes wedi lladd dros 280 o bobol yn y Caribî.

“Mae’r storm hon yn anghenfil,” meddai llywodraethwr Fflorida, Rick Scott nos Iau. “Dw i’n mynd i weddïo dros ddiogelwch pawb.”

Erbyn i’r nos gyrraedd, fe gollodd dros 80,000 o gartrefi a busnesau bŵer ac roedd llifogydd ar strydoedd yn ninas Vero Beach.

Roedd disgwyl i’r corwynt fod ar ei waethaf ar y tir mawr, ond ar hyn o bryd mae ond wedi cyrraedd arfordir y wlad.

Erbyn y penwythnos, gallai gyrraedd arfordir Georgia a De Carolina cyn mynd yn ôl i’r môr, a hyd yn oed dod yn ôl i Fflorida erbyn canol wythnos nesa’.

Mae miliynau o bobol yn Fflorida, Georgia a De Carolina wedi cael cyfarwyddyd i adael eu cartrefi.

“Mae’r storm eisoes wedi lladd pobowl. Dylem ddisgwyl yr un effaith yn Fflorida,” meddai’r llywodraethwr.

Stad o argyfwng

Mae’r Arlywydd Barack Obama wedi datgan bod y tair talaith mewn stad o argyfwng, ac mae arian wedi cael ei roi i ddiogelu bywydau.

Fe wnaeth cwmnïau hedfan ganslo dros 3,000 o hediadau ddydd Iau a dydd Gwener, llawer ohonyn nhw i neu o Miami a Fort Lauderdale.