Mae bom wedi taro pentre’ yng ngogledd-orllewin Syria, wrth y ffin â gwlad Twci, gan ladd beth bynnag 20 o bobol.

Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad yn Atmeh, a’r gred ydi mai gwrthryfelwyr â chefnogaeth Twrci sydd wedi’u lladd.

Mae adroddiadau lleol yn dweud mai llond bag o ffrwydron gafodd ei danio.

Mae ffrwydriad arall yn nhalaith Idlib wedi lladd 24 o bobol.