Mae heddlu sy’n targedu’r Mafia yn Napoli wedi dod o hyd i ddau lun gan Van Gogh gafodd eu dwyn o Amsterdam yn 2002.

Dywedodd Amgueddfa Van Gogh bod y lluniau, sydd wedi cael eu darganfod heb fframiau, mewn cyflwr cymharol dda, er eu bod “rhywfaint o ddifrod”.

Mae un darn ‘Morlun yn Scheveningen’ yn dyddio o 1882 ac mae’r ail, ‘Addolwyr yn gadael yr Eglwys Ddiwygiedig yn Nuenen’, yn waith diweddarach.

Dywedodd yr heddlu yn Napoli bod y peintiadau, sy’n cael eu disgrifio yn rhai “amhrisiadwy”, wedi cael eu darganfod fel rhan o ymgyrch yn erbyn gang Camorra sy’n seiliedig yn Napoli ac yn cael eu hamau o fasnachu cocên.

Dywedodd erlynwyr Naples y bydd mwy o fanylion yn cael eu rhoi yn ddiweddarach mewn cynhadledd newyddion.

Diolchodd cyfarwyddwr Amgueddfa Van Gogh, Alex Rueger, i heddlu’r Eidal am eu gwaith yn dod o hyd i’r lluniau.

Nid yw’n glir pryd y bydd y paentiadau yn dychwelyd i Amsterdam.