Mae awyrennau Rwsia wedi lladd mwy na 9,000 o bobl yn Syria dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl grŵp sy’n monitro rhyfel cartref y wlad.

Dywedodd Arsyllfa Syria ar Hawliau Dynol, sy’ wedi’i leoli ym Mhrydain, bod y rhai sydd wedi cael eu lladd yn cynnwys pobl gyffredin a rhyfelwyr – gan gynnwys gwrthryfelwyr a grwpiau sy’n gysylltiedig ag IS ac al Qaida.

Flwyddyn union yn ôl y dechreuodd Rwsia ymgyrch awyr i gefnogi lluoedd Arlywydd Syria, Bashar Assad.

Mae rhai’n beio Rwsia am yr ymgyrch awyr ddiweddar fu’n targedu ardaloedd sy’n cael eu rheoli gan wrthryfelwyr yn Aleppo – mae mwy na 200 o bobl gyffredin wedi eu lladd yno yn y pythefnos ddiwethaf a rhannau o’r ddinas wedi eu chwalu.

Mae’r Arsyllfa yn dweud bod yr ymosodiadau wedi lladd 9,364 o bobl yn y flwyddyn ddiwethaf.