RSS

Golwg360

MwyCau 

Llew wedi’i ladd yn yr Almaen ar ôl dianc o sŵ

Medi 29, 2016 13:41 Diweddarwyd am 13:42


Mae sŵ yn yr Almaen wedi gorfod lladd un o’i llewod, wedi i ddau o’r creaduriaid ddianc o’u caets yn ystod y nos.

Chafodd yr un dyn ei anafu, meddai Sŵ Leipzig, wedi i ddau lew ifanc allu torri’n rhydd. Fe gafodd un llew ei ddal a’i ddychwelyd i’r gawell, tra bod y llall wedi’i saethu â chyffur i’w ddofi.

Ond fe fethodd y cyffur â llonyddu’r ail lew, ac fe fu’n rhaid ei saethu’n farw.

Fe anwyd y ddau lew, Majo a Motshegetsi, tua blwyddyn yn ôl yn Sŵ Basel yn yr Almaen, ac roedden nhw wedi’u trosglwyddo i Leipzig ers mis Awst eleni.

Dyw hi ddim yn glir eto pa un o’r ddau sydd wedi’i ladd.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nodi Camddefnydd
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.