Mae athro a dau ddisgybl wedi’u hanafu, wedi i fachgen yn ei arddegau fynd i mewn i ysgol fach wledig a dechrau saethu.

Mae hi bellach yn hysbys hefyd fod y bachgen wedi lladd ei dad ei hun cyn mynd am Townville Elementary School yn nhalaith De Carolina.

Fe gafodd yr holl ddisgyblion eu cludo mewn bws o’r ysgol er mwyn cyfarfod eu rhieni mewn eglwys gerllaw. Roedd rhai o’r plant wedi mynd i guddio yn nhoiledau’r ysgol yn ystod y saethu, ac roedden nhw mewn sioc.

Mae lluniau teledu o’r digwyddiad yn dangos heddlu yn amgylchynu’r ysgol ac ar y to, tra’r oedd eraill yn ceisio cael mynediad neu’n cau’r lonydd yn arwain i’r ardal.

Mae Townville Elementary yn ysgol wledig iawn mewn ardal amaethyddol rhyw 100 milltir o ddinas Atlanta, ac mae tua 300 o ddisgyblion yno.