Mae hofrennydd y fyddin wedi plymio o’r awyr uwchben yr Alpau yn y Swistir, gan ladd dau beilot ac anafu un arall o’r criw.

Fe aeth yr hofrennydd Super Puma i drafferthion yn ardal Gothard, lle’r oedd hi’n rhan o waith arolygu ar y cyd rhwng gwledydd Ewrop. Roedd pedwar swyddog Ffrengig a dau swyddog o’r Swistir newydd adael yr hofrennydd, cyn iddi godi o Bern.

Mae pob taith arall gan y math hwn o hofrennydd wedi’u gohirio am y tro, rhag ofn.

Dyma’r tro cynta’ i hofrennydd Super Puma blymio o’r awyr ers Mawrth 30, 2011, yn ardal Uri gerllaw.