Darn o awyren MH17, Gorffennaf 2014
Taflegryn a gafodd ei gludo o Rwsia i ddwyrain yr Wcráin oedd yn gyfrifol am farwolaeth 298 o bobol ar fwrdd awyren o Malaysia, yn ôl ymchwiliad.

Ar drothwy cynhadledd i’r wasg, cafodd teuluoedd y rhai fu farw wybod canlyniadau’r ymchwiliad a gafodd ei gynnal gan yr Iseldiroedd.

Yn ôl y teuluoedd, mae gan ymchwilwyr dystiolaeth, gan gynnwys darnau o sgyrsiau a data oddi ar radar yr awyren, fod y taflegryn wedi cael ei symud i’r Wcráin o Rwsia, a bod cyfarpar i lansio’r taflegryn wedi cael ei ddychwelyd i Rwsia’n ddiweddarach.

Mae’r ymchwiliad wedi para dwy flynedd ac mae lle i gredu y gallai’r dystiolaeth gael ei defnyddio pe bai achos llys yn dilyn.

Mae Rwsia’n parhau i wadu mai gwrthryfelwyr o’r Wcráin sy’n eu cefnogi oedd yn gyfrifol am y gyflafan.