Wedi'r glaw (Llun: PA)
Mae teiffŵn wedi lladd cyfanswm o bump o bobol yn China a Taiwan, lle mae’r awdurdodau’n parhau ar eu gwyliadwraeth rhwng tirlithriadau a allai achosi mwy o dorcalon.

Fe gafodd un dyn ei ladd yn nwyrain China, ddiwrnod wedi i bedwar o bobol gael eu lladd gan Deiffŵn Megi yn Taiwan, ac mae beth bynnag 600 o bobol wedi’u hanafu.

Ar ei anterth, roedd y gwynt yn chwythu ar gyflymder o 74 milltir yr awr.

Mae rhagolygon y tywydd yn dweud y bydd y gwynt yn symud i gyfeiriad y gogledd-orllewin heddiw, gan arafu wrth fynd. Yn y cyfamser, mae hyd at bedair miliwn o gartrefi yn Taiwan yn parhau heb drydan a dŵr.