Nepal
Mae o leiaf 14 o bobol wedi marw ar ôl i fws lithro i lawr ochr mynydd yn Nepal, yn ôl swyddog o lywodraeth y wlad.

Pobol leol oedd yn teithio ar y cerbyd ac roedd rhai yn eistedd ar do’r bws pan ddisgynodd.

Fe aeth i drafferthion ar ffordd ger pentref Lapang Phedi cyn llithro tua 300 metr i lawr y mynydd.

Mae o leiaf naw o bobol eraill wedi cael eu hanafu, yn ôl adroddiadau.