Hillary Clinton (Llun: o wefan ei hymgyrch)
Mae’r ddau ymgeisydd yn ras arlywyddol yr Unol Daleithiau wedi gwrthdaro ar faterion fel swyddi, gynnau, hil a newid hinsawdd mewn dadl deledu danllyd.

Ar adegau roedd ’na gecru personol rhwng y ddau, gyda’r Gweriniaethwr Donald Trump yn honni nad oes gan ymgeisydd y Democratiaid Hillary Clinton y ‘stamina’ i fod yn arlywydd.

Fe darodd hi nôl gan ddweud nad oedd Trump yn fodlon rhyddhau ei fanylion treth a’i fod wedi dweud celwydd “hiliol” wrth son am dystysgrif geni Barack Obama.

Roedd tua 100 miliwn o bobol wedi gwylio’r ddadl awr a hanner, a gafodd ei darlledu o Efrog Newydd.

Cyn i’r ddadl gael ei darlledu, roedd arolwg yn awgrymu ei bod hi’n glos rhyngddynt ond fe wnaeth y polau ar ddiwedd y noson ddangos mai Clinton oedd ar y blaen.

Roedd y gynulleidfa hyd yn oed yn chwerthin ar brydiau wrth i sylwadau gwawdlyd gael eu gwneud gan y ddau ymgeisydd:

“Mae gen i deimlad y bydda i’n cael fy meio am bopeth sydd erioed wedi digwydd erbyn diwedd y noson,” meddai Clinton.

“Pam ddim?” atebodd Trump.

“Ie, pam ddim?” meddai Clinton yn wawdlyd.