Mae’r cynnydd mewn hela eliffantod Affricanaidd ar gyfer ifori’n golygu bod eu niferoedd wedi gostwng bron 100,000 yn ystod y degawd diwethaf, yn ôl arbenigwyr cadwraeth.

Mae hela ar ei anterth erbyn hyn, ac wedi cyrraedd y lefelau gwaethaf ers y 1970au a’r 1980au.

Mae ffigurau arbenigwyr o Undeb Rhyngwladol Cadwraeth Natur (IUCN) yn awgrymu bod 93,000 yn llai o eliffantod Affricanaidd yn bodoli nag yn 2006.

Ond gan fod y ffigurau’n cynnwys eliffantod sydd heb eu cyfri o’r blaen, mae arbenigwyr yn dweud bod y ffigwr go iawn yn nes at 111,000.

Mae adroddiad ar rywogaethau mewn perygl sydd wedi cael ei gyflwyno i gynhadledd ryngwladol yn dweud bod colli cynefinoedd hefyd yn peryglu dyfodol eliffantod.

Mae’r ymchwil yn seiliedig ar boblogaethau eliffantod mewn 37 o wledydd.

Mae lle i gredu bod 415,000 o eliffantod yn Affrica – ond fe allai’r ffigwr hwnnw godi i 135,000 o gynnwys ardaloedd sydd heb gael eu hadolygu’n fanwl.

Dywedodd llefarydd ar ran WWF fod hela eliffantod yn dal yn boblogaidd yn Affrica “er gwaethaf galwadau byd-eang” i ddod â’r weithred i ben.